Mae Heddlu’r De’n ymchwilio i farwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ar ffordd A465 Blaenau’r Cymoedd fore heddiw (dydd Sul, Medi 9).

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Cefn Coed ger Merthyr Tudful ar ôl i gar Ford Mondeo arian daro dyn am oddeutu 6.10yb.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ac mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Cafodd y ffordd rhwng Cefn Coed a Dowlais ei chau am oddeutu pedair awr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.