Alun Ffred Jones AC
Byddai modd rhoi £1bn yn ychwanegol bob blwyddyn i economi Cymru gyda thargedu caffael y sector cyhoeddus yn fwy arloesol a chreadigol.

Dyna oedd neges Plaid Cymru a fydd yr wythnos hon yn defnyddio dadl yn y Senedd i alw ar Lywodraeth Lafur newydd Cymru i agor eu llygaid i’r cyfleoedd economaidd sydd gan gaffael y sector cyhoeddus i’w gynnig.

Dywedodd Plaid Cymru y gallasai trin caffael y sector cyhoeddus mewn modd arloesol fod o fudd enfawr i economi Cymru.

Ond beirniadodd Lafur am fethu â gweithredu ar y mater hyd yma, gan eu cyhuddo o hepian yn hytrach na hybu. Dywedodd llefarydd  Plaid Cymru ar yr economi,  Alun Ffred Jones AC,  fod Llafur wedi methu â dwyn unrhyw gynlluniau gerbron i hybu economi Cymru ers yr etholiad ym mis Mai – a bod cymunedau ledled y genedl yn talu’r pris, fel y gwelwyd yn y codiad diweddaraf mewn ffigyrau diweithdra.

‘Harneisio potensial’

Mae Alun Ffred Jones o Blaid Cymru wedi galw ar i’r llywodraeth Lafur arwain o ran harneisio potensial economaidd caffael y sector cyhoeddus ers lles BBaCh Cymreig ac economi ehangach Cymru.  Amcangyfrifir bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys y llywodraeth, ysbytai, ysgolion a llywodraeth leol yn gwario dros £4bn bob blwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr.

Ar hyn o bryd, rhyw hanner hyn sy’n cael ei wario yng Nghymru.  Mae Plaid Cymru yn galw am gynyddu hyn i 75% sef £1bn y flwyddyn yn ychwanegol i economi Cymru.

Meddai Alun Ffred Jones:

“Mae Plaid Cymru yn bendant mai dyma’r amser am weithredu cadarnhaol i adnewyddu ac ail-godi economi Cymru.  Mae angen i lywodraeth Cymru agor eu llygaid i gyfleoedd economaidd caffael y sector cyhoeddus a allai hybu economi Cymru o £1bn yn ychwanegol bob blwyddyn.

“Mae o’r pwys mwyaf fod llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ganddynt i hybu economi Cymru fel y gall ein cymunedau ail-adeiladu a symud ymlaen. Allwn ni ddim caniatáu i Lafur barhau i eistedd ar eu dwylo a gwneud dim. Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario symiau enfawr bob blwyddyn ar gaffael, ond yn rhy aml o lawer, mae cwmnïau Cymreig ar eu colled.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld y llywodraeth hon yn gweithredu fel y gall cwmnïau Cymreig, busnesau bach a chanolig yn arbennig, gyrchu contractau sector cyhoeddus.  Gallai hyn ddwyn £1bn y flwyddyn yn ychwanegol i’r economi, ac wrth gwrs, mae arian a enillir yng Nghymru gan gwmnïau Cymreig yn fwy tebygol o gael ei wario yng Nghymru – dro ar ôl tro.

“Fe wyddom fod BBaCh lleol, Cymreig yn aml yn ei chael yn anodd cystadlu am gontractau sector cyhoeddus.  Gwyddom hefyd fod arbenigedd ac arferion da ar gael, sy’n gwneud y broses o dendro yn y sector cyhoeddus yn fwy hygyrch i gwmnïau llai. Rydym ni am i lywodraeth Cymru arwain ar hyn o beth a gweithredu yn gadarnhaol i sicrhau bod yr arbenigedd a’r arferion da yn cael eu cyflwyno ledled y sector cyhoeddus.  Rydym eisiau iddynt arwain er mwyn sicrhau y bydd BBaCh Cymreig mewn sefyllfa i dendro am o leiaf 75% o gontractau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru.”