Fe fydd dynes yn mynd gerbron llys yn Llundain heddiw ar gyhuddiad o droseddau’n ymwneud a ffrwydron yn dilyn cyrch ar ei chartref yng Nghaerdydd.

Mae Natalie Parsons, 51 oed, yn wynebu dau gyhuddiad o wneud ac o fod a sylwedd ffrwydrol yn ei meddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd. Mae hi hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o fod a dogfennau brawychol yn ei meddiant.

Mae disgwyl i Natalie Parsons fynd gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Llun (3Medi).

Honnir bod sylwedd ffrwydrol arall, hexamethylene triperoxide diamine (HMTD), wedi cael ei ddarganfod mewn sied yn yr ardd.

Dywedodd heddlu gwrth-frawychiaeth nad oes tystiolaeth am unrhyw fygythiad penodol yng Nghaerdydd.