Mae’r grŵp trafod a chefnogi ‘Merched Cwl Cymreig’ ar Facebook wedi newid ei enw, wrth i’w aelodaeth gynyddu o ychydig dros 3,600 o aelodau ddydd Mawrth yr wythnos hon (Awst 21) i dros 5,300 erbyn heddiw (dydd Iau).

Bellach, mae’r grŵp caëdig yn mynd dan y label ‘Rhwydwaith Menywod Cymru‘ ac mae eisoes yn fforwm i ferched Cymraeg yn unig rannu digwyddiadau, nwyddau, prynu a gwerthu, yn ogystal â thrafod unrhyw bwnc dan haul.

Ymhlith y pynciau i gael eu trafod ddoe (dydd Mercher, Awst 22) yr oedd profiadau un aelod yn rhoi’r gorau i deimlo’r pwysau i siafio ei choesau.

Mae’r aelod wedi postio llun o’i choesau “blewog” , ac yn ogystal â denu dros 40 o sylwadau, mae’r post wedi’i ‘hoffi’ dros 80 o weithiau. “Arhoswch chi nes bydd blew ar eich wyneb” yw rhybudd un wraig ddoeth i’r aelodau iau.

Tair mil o aelodau mewn wythnos

Cafodd grŵp Facebook ‘Menywod Cŵl Cymreig’ ei sefydlu wythnos yn ôl, wedi i hashnod o’r un enw ddod yn boblogaidd ar wefan Twitter, ac erbyn dydd Mawrth yr wythnos hon roedd dros 3,600 wedi ymuno.

Dim ond menywod sy’n cael ymuno â’r grŵp, ac yn ôl ei sefydlydd, Melangell Dolma, ei nod yw cynnig “lle saff” i fenywod drafod, hysbysebu digwyddiadau a chefnogi ei gilydd.