Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i long olew daro cwch pysgota yn oriau mân y bore ’ma oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cafodd gwylwyr y glannau Caergybi  eu galw i’r digwyddiad am 3.16 y bore ’ma, wedi iddyn nhw glywed sgwrs radio rhwng y pysgotwyr a chriw’r llong olew ar ôl y gwrthdrawiad.

Digwyddodd y ddamwain 20 milltir i’r gorllewin o arfordir Ynys Môn, ond dyw hi ddim yn glir eto beth oedd achos y gwrthdrawiad.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Caergybi wrth Golwg 360 fod cwch bysgota y ‘Bridget Carmel’ wedi cael ychydig o ddifrod, ond fod y difrod hwnnw i gyd uwchben lefel y dŵr. Er nad oedd angen iddi gael ei thynnu yn ôl i Wicklow, cafodd y cwch pysgota ei thywys peth o’r ffordd yn ôl i Wicklow gan wylwyr y glannau Caergybi, cyn i dîm o Wicklow ddod i gwrdd â nhw ar y môr.

Cynnal ymchwiliad

Dywedodd y llefarydd hefyd fod y llong olew, yr ‘Ocean Lady’, wedi parhau ar ei thaith tuag at Aberdaugleddau er gwaetha’r gwrthdrawiad.

“Mae’r tancer yn dal ar ei ffordd i Aberdaugleddau, ac nid oedd wedi stopio ar ôl y gwrthdrawiad.

“Fyddech chi yn gobeithio, yn enwedig o ysytried y gwahaniaeth maint rhwng y ddau, y byddai’r tancer wedi stopio petai rhwybeth wedi digwydd,” meddai’r llefarydd.

Ond dydi hi ddim yn glir eto a oedd pawb ar y llong yn ymwybodol ar y pryd fod gwrthdrawiad wedi digwydd.

Mae disgwyl i’r llong olew, sydd wedi ei chofrestru yn Ynys Manaw, gyrraedd Aberdaugleddau y prynhawn yma.

Yn y cyfamser, mae dau ymchwiliad wedi dechrau i’r digwyddiad: un gan arolygwyr lleol, a’r llall gan y Swyddfa Ymchwil i Ddamweiniau Morwrol. Mae disgwyl y bydd yr ymchwilwyr yn cysylltu â chriw llong olew yr ‘Ocean Lady’ wedi iddi gyrraedd Aberdaugleddau.