MAe Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad a ddigwyddodd yn y Castle Hotel, Blaenafon, ychydig dros wythnos yn ôl.
Fe gafodd swyddogion eu galw tua 21.30yh nos Wener, Awst 10.
Yn ystod y noson, honnwyd bod dyn wedi ymosod ar ddyn lleol 25 oed, a bod y dyn lleol wedi cael anaf difrifol i’w ben. Mae’n dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mewn cyflwr sefydlog.
Ddydd Mercher, Awst 15, fe gafodd dyn 39 oed o’r ardal ei arestio ar amheuaeth o glwyfo gyda bwriad, ac mae wedi’i ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.