Cathod i liw arall yn llai tebygol o fynd ar goll, meddai RSPCA

Mae mwy o gathod du neu ddu a gwyn yn cael eu hachub gan yr RSPCA yng Nghymru nag o unrhyw liw arall, yn ôl ffigyrau.

Dros y tair blynedd diwetha’, mae’r elusen wedi gorfod ailgartrefu 4,151 o gathod du a gwyn a 3,169 o gathod du.

Mae hyn, medden nhw, o gymharu o â 1,613 o gathod tabi a 616 o gathod sinsir.

Maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn cymryd o 30 diwrnod ar gyfartaledd i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer cathod du a 28 diwrnod ar gyfer cathod du a gwyn.

I gathod tabi wedyn, mae’n cymryd 23 diwrnod, tra bo cathod sinsir yn cael eu hailgartrefi o fewn 19 diwrnod.

‘Edrych y tu hwnt i’r lliw’

Yn ôl yr RSPCA, mae lle i gredu bod cathod du a gwyn yn fwy cyffredin nag unrhyw fath arall, ond maen nhw hefyd yn credu bod eu lliw yn ffactor sy’n atal pobol rhag eu cymryd.

“Rydym yn annog pobol i edrych y tu hwnt i ymddangosiad yr anifail,” meddai Sam Watson o RSPCA.

“Mae lliw eu cot yn gwneud dim gwahaniaeth i faint o gariad y maen nhw’n eu rhoi.

“Mae pob cath yn unigolyn sydd â’i phersonoliaeth ei hun, felly dw i’n annog pobol i geisio edrych y tu hwnt i’r lliw a darganfod y partner gorau iddyn nhw.”