Mae yna bryderon bod methiannau yn y broses wrth ollwng cleifion o’r ysbyty yn gallu peryglu eu bywydau.

Oherwydd diffyg trosglwyddo gwybodaeth a threfn wael, mae cleifion weithiau’n methu â chael y driniaeth iawn yn ôl yn eu cartrefi, meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Maen nhw’n dweud bod rhaid i bawb sy’n gofalu am gleifion wynebu eu cyfrifoldeb o ran y broses o ollwng cleifion ar ôl triniaeth ysbyty.

‘Tameidiog’

Yn ôl yr adroddiad, mae’r gwasanaethau’n “dameidiog”, gydag amrywiaeth mawr yn yr hyn sy’n digwydd o ardal i ardal, gydag arferion gwael mewn rhai mannau ac arferion da mewn eraill.

Un o’r problemau penna’, meddai’r Arolygiaeth, yw fod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r prosesau gollwng cleifion ymhlith staff ar rai wardiau.

Mae hynny, diffyg o ran cofnodion cyfrifiadurol a methiant gweithwyr proffeisynol yn peryglu cleifion, medden nhw.

Mae’r adroddiad yn nodi 13 argymhelliad i sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru a’r Gwasanaeth Iechyd.

“Tameidiog”

Yn ôl Prif Weithredwr AGIC, Dr Kate Chamberlain, mae’r dull gweithredu sy’n cael ei fabwysiadu ledled Cymru yn “dameidiog”.

“Gall dulliau gwael o ryddhau cleifion o’r ysbyty arwain at ofal parhaus gwael i gleifion yn y gymuned,” meddai.

“Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae gofyn i bob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal claf gymryd cyfrifoldeb am ei ran yn y broses o ryddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol.”