Bydd rownd nesaf grant amaethyddol gwerth £6m, a fydd yn canolbwyntio ar reoli a storio maeth ar ffermydd, yn cychwyn ym mis Medi, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Nod pedwerydd cyfnod y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yw rhoi’r cyfle i ffermwyr fynd i’r afael â llygredd amaethyddol, a hynny er mwyn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer.

Yn ôl yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, bydd y grantiau’n amrywio o £12,000 i £50,000, gyda’r symiau’n talu am hyd at 40% o’r prosiect.

Mae’r eitemau a fydd yn cael eu hariannu yn cynnwys, ymysg pethau eraill, storfeydd slyri dan orchudd a chyfarpar rheoli.

Bydd y grant dim ond yn cael ei gynnig os yw’r buddsoddiad yn rhagori ar reoliadau stori slyri ac yn darparu storfa ar gyfer o leiaf 160 o ddiwrnodau.

Gwella’r amgylchedd

“Bydd cyfnod nesaf y Grant yn canolbwyntio ar helpu ffermwyr i gyflawni’n hamcanion o ran rheoli maethynnau’n well a diogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer drwy leihau llygredd,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd y buddsoddiad yn helpu ffermwyr i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn a sicrhau bod cenedlaethau heddiw ac yfory’n gallu parhau i elwa ar ein hadnoddau naturiol.”

Bydd y pedwerydd cyfnod yn cychwyn ar Fedi 3 ac yn dod i ben ar Hydref 26, gyda disgwyl i gontractau gychwyn ym mis Ionawr 2019 a chael eu hawlio erbyn mis Awst 2021.