Mae arweinydd newydd UKIP yng Nghymru, Gareth Bennett wedi ategu ei farn y dylid diddymu’r Cynulliad ym Mae Caerdydd.
Daeth ei sylwadau ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, ddeuddydd yn unig ar ôl cael ei ethol yn arweinydd.
Ar hyn o bryd, mae UKIP yn cefnogi datganoli yng ngwledydd Prydain, ond mae disgwyl i drafodaethau gael eu cynnal i ystyried ei newid.
Dywedodd: “Allwn ni ddim cael polisi yng Nghymru nad yw’n plethu â’n polisïau ledled gwledydd y DU.
“Polisïau’r DU yw ein bod ni, ar y cyfan, yn cefnogi’r sefydliadau datganoledig. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y newidiodd y polisi hwnnw a dw i ddim yn sicr fod llawer o fandad democrataidd o fewn y blaid am y newid hwnnw.”
Dywedodd y byddai’n “rhyfedd” peidio â chyflwyno’r polisi.
Refferendwm
Wrth leisio’i farn, dywedodd Gareth Bennett ei fod e am weld refferendwm yn cael ei gynnal ar ddyfodol y Cynulliad, gan y byddai’n “warthus o annemocrataidd” bwrw ymlaen gyda’r diddymu heb ei gynnal.
Dywedodd ei fod yn dymuno gweld Cymru’n cael ei llywodraethu o San Steffan ar draul yr “ymherodraeth gynyddol sy’n cael ei hadeiladu ym Mae Caerdydd”.
Ond mae dau o’i gydweithwyr, David Rowlands a Caroline Jones wedi wfftio’i farn y byddai diddymu’r Cynulliad yn dod yn bolisi.