Mae’r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad yn atyniad twristaidd Folly Farm yn Sir Benfro ddydd Sul.
Mae menyw yn dweud i ddyn ei gwthio i mewn i ddrws tân sawl gwaith, gan ei hatal rhag dod mewn i’r ardal bicnic dan do.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig am tua hanner dydd pan oedd y fenyw yn arwain cymeriadau Peppa Pig i’r adeilad yn dilyn sioe.
Fe wnaeth plentyn ifanc daro i mewn i’r person oedd wedi gwisgo fel un o’r cymeriadau, George Pig, a disgyn.
Mae’n debyg i ddyn ymateb i hyn drwy wthio’r fenyw oedd yn arwain y cymeriadau i ddrws tân sawl gwaith.
Chafodd neb ei anafu ond mae’r heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a allai fod wedi gweld beth ddigwyddodd.