Does dim cymorth o gwbl i Gymry Cymraeg sydd â dementia, yn ôl dynes sy’n gofalu am ddyn â’r cyflwr.

Mae Enfys Davies yn gofalu am ei gŵr Peter, a’n pryderu’n benodol am ddiffyg gofalwyr gwirfoddol sy’n medru’r Gymraeg.

Mae wedi bod yn “lwcus” i gael gafael ar ofalwr gwirfoddol, meddai, sy’n medru gofalu am ei gŵr pan mae hi am gael hoe.

Ond, mae’n ategu bod yna brinder mawr, a bod yna broblem ehangach yn y maes.

“Does dim trefn [gofal Gymraeg] i gael – Dim cymorth,” meddai wrth golwg360. “Does dim cymorth i’r person sy’n dioddef o ddementia, a does dim cefnogaeth i’r gofalwyr chwaith.

“Mae pawb yn dweud, ‘trïwch y peth hyn a trïwch y peth arall’. Does dim byd mas ‘na o gwbl. Mae pawb yn osgoi y broblem.”

Mae’n ategu bod “gwaith papur” yn rhwystro siaradwyr Cymraeg rhag gwirfoddoli, ac yn ofni na fydd safon y gofal yn gwella tan fod rhagor o wirfoddolwyr.

Trafodaeth

Bore heddiw (dydd Mercher, Awst 8) bydd Enfys Davies yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar y mater ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Emyr Roberts, un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas Alzheimers, fydd yn ei gadeirio, ac mi fydd y gyflwynwraig, Beti George (sydd yn ofalwr), a Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn cymryd rhan.

Yn ôl Meri Huws mae “pethau yn gwella”, ond mae’r cynnydd hwnnw yn “dameidiog” ac “anghyson”.

“Yn sicr rydym ni’n symud i’r cyfeiriad iawn, ‘sdim cwestiwn am hynny,” meddai wrth golwg360 cyn i’r sesiwn ddechrau.

“Mae ‘na fwy o ymwybyddiaeth o’r anghenion … Mae’n gwella ond nawr dw i’n credu ddyle ni ddweud heb amheuaeth – ‘Mae angen llwybr gofal cenedlaethol’.”

Mae’n cynnig rhagor o wybodaeth am y ‘llwybr gofal’ yma, a’n dweud bod angen sicrhau darpariaeth Gymraeg i ofalwyr a chleifion ar bob lefel.

Meri Huws

Ar y cyd

Sesiwn ar y cyd bydd y drafodaeth rhwng Comisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas Alzheimers yng Nghymru, a’r Theatr Genedlaethol.