Corff dyn 63 oed o Iwerddon oedd yr un a gafodd ei ddarganfod ar draeth Rhosneigr yn 1985, meddai Heddlu’r Gogledd.

Daeth aelod o’r Awyrlu Brenhinol o hyd i gorff ar 9 Tachwedd y flwyddyn honno wrth redeg ar y traeth.

Bellach, mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff Joseph Brendan Dowley o Kilkenny oedd e.

Ceision nhw ei adnabod ar y pryd yn dilyn ymchwiliad, ac fe gofnododd y crwner reithfarn agored ar ddiwedd y cwest i’w farwolaeth. Ond doedd ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Cafodd ei gladdu’n ddiweddarach mewn bedd heb gofnod ym Mhorthaethwy.

Datgladdu’r corff

Wrth i’r Garda yn Iwerddon a Heddlu’r Gogledd barhau i ymchwilio, cafodd y corff ei ddatgladdu ar Fehefin 19 eleni.

Fe fu Joseph Brendan Dowley yn byw yn Llundain, ac fe gafodd ei weld ddiwethaf ym mis Hydref 1985 wrth fynd i ddal fferi.

Mae adroddiad yr heddlu wedi’i drosglwyddo i’r crwner, ac mae teulu Joseph Brendan Dowley wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.