Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw’r trydydd dyn a fu farw mewn damwain draffig angheuol yng Nghaerdydd dros y Sul.

Roedd Dayne Thomas, 19 oed, yn dod o Gwmbran, ac fe fu ef a dau arall farw ar ôl i’w cerbyd – Ford Focus llwyd – wrthdaro â lori ystod oriau mân bore Sul (Awst 5).

Mae’r ddau ddyn arall a oedd yn cyd-deithio â Dayne Thomas eisoes wedi’u henwi, sef Alex Davidson, 19 oed, o Gwmbrân, a Robert Bambridge, 24 oed, o Bont-y-pŵl.

Mae gyrrwr y lori wedi goroesi’r ddamwain heb anafiadau difrifol.

“Personoliaeth foncyrs”

Mewn teyrnged, mae teulu Dayne Thomas yn dweud ei fod yn cael ei adnabod am ei “wallt rhydd, ei lais uchel a’i hiwmor”.

“Roedd yn gymeriad llawn bywyd a doedd e ddim yn gwybod beth i wneud gyda’r holl egni,” meddai’r datganiad.

“Roedd ei bersonoliaeth foncyrs yn heintus i bawb a ddaeth i gysylltiad ag ef. Rydym ni fel teulu yn hynod drist bod ein byd ni wedi’i rwygo i ddarnau.”