Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n dal i ymchwilio i achos y tân mewn gwesty yn Aberystwyth bron bythefnos yn ôl.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi methu ag archwilio adeilad Tŷ Belgrave ar y prom gan fod y gwaith o wneud y safle’n ddiogel yn parhau.

Yn y cyfamser, mae swyddogion wedi cysylltu â theulu’r dyn o Lithwania sydd wedi bod ar goll ers y tân ar nos Fercher, Gorffennaf 25.

“Rydym wedi cysylltu â’i deulu, ac maen nhw’n cael eu hysbysu am unrhyw ddiweddariadau sydd ynghlwm wrth yr achos,” meddai’r uwch arolygydd, Huw Davies.

Mae dyn lleol, sef Damion Harris, 30 oed, o Lanbadarn Fawr yn dal i fod yn ddalfa wedi iddo gael ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Iau diwetha’, ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddiwedd y mis ar Awst 24.