Mae “mwy o ddiddordeb nag erioed” yn hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, yn ôl un o academyddion y brifddinas.

Daw sylw Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn dilyn darlith ganddo ar faes yr Eisteddfod.

Yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd, ddydd Llun (Awst 6); bu’n trafod enwau Cymraeg ardaloedd Caerdydd a’r hanes y tu ôl iddyn nhw.

Tynnodd sylw at sawl un o hen enwau’r Cymry am ardaloedd Caerdydd, a soniodd am Gantwn – Cantwn nid Treganna, oedd enw’r Cymry cynhenid am ‘Canton’.

Er bod Cymry Cymraeg Caerdydd bellach wedi cefnu ar yr hen enwau yma, mae’r academydd yn ffyddiog y bydd eu stori yn cael ei gofio.

“Yn aml iawn mae’r Cymry sydd yn symud i mewn o’r tu allan, ac yn defnyddio’r enwau maen nhw’n clywed gan y bobol ddi-Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Ac mae’r enwau gan y siaradwyr Cymraeg cynhenid yn cael eu hanghofio. Mae pethau fel hyn yn digwydd felly mae angen ychydig o ymchwil, a rhywun i adrodd y stori mewn ffordd, i gadw’r traddodiadau yma yn fyw.

“Ond dw i’n meddwl bod hynna’n digwydd fwyfwy rŵan ac mae mwy o ddiddordeb nag erioed mewn hanes yr iaith yn y ddinas.”

Mae’n ategu bod “enwau lleoedd yn bethau sydd yn newid dros amser” ond “yn sicr dylwn ni ddim fod yn bathu rhai newydd lle mae ‘na rai ar gael eisoes”.

Trelái

Yn ystod ei ddarlith mi dynnodd Dr Dylan Foster Evans sylw at lyfr yr Aelod Cynulliad UKIP, Gareth Bennett, The Little Book of Cardiff.

Mae’r llyfr yn honni mai enw a gafodd ei greu yn yr 1900au yw Trelái – yr enw Cymraeg ar gyfer Ely.

Wrth annerch eisteddfodwyr mi ddyfynnodd yr academydd gwaith gan fardd o’r 17eg ganrif, sy’n cyfeirio at ‘Dre Lai’ – tystiolaeth bod ‘na wreiddiau dwfn i’r enw.

Wfftio’r ymdrechion yma i danseilio hanes y Cymry Cymraeg, mae Dr Dylan Foster Evans gan nodi: “Dydyn nhw ddim yn llwyddo beth bynnag oherwydd mae’r dystiolaeth yn ddigon clir.”