Mae Criced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg wedi mynegi pryder am oblygiadau cynllun peilot Undeb Rygbi Cymru i gynnal gemau rygbi i blant oedran cynradd dros yr haf.

Mewn datganiad ar y cyd, maen nhw’n dweud eu bod “wedi ymrwymo i egwyddorion cyfleoedd mewn nifer o gampau” ond eu bod yn “gofidio mai canlyniad anfwriadol y fenter bresennol yw y gallai orfodi plant i ddewis rhwng rygbi a chriced”

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Griced Cymru a Chlwb Criced Morgannwg gyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Cefndir

Pan gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bwriad i dreialu gemau rygbi dros yr haf i blant oedran cynradd, daeth ymateb chwyrn gan y byd criced.

Ymrwymodd 59 o glybiau i’r cynllun, sydd wedi bod yn rhedeg ers mis Mehefin, ar ôl i ymgynghoriad awgrymu bod angen newid y tymor rygbi i blant am nifer o resymau.

Ymhlith y rhesymau dros newid y tymor, meddai Undeb Rygbi Cymru, mae’r ymdeimlad y gallai wella canlyniadau ar y cae a chynyddu nifer y plant sy’n chwarae’r gêm, yn ogystal â chynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i chwarae yn yr awyr agored.

O chwarae dros yr haf, meddai’r Undeb, fe fydd mwy o gyfleoedd i gynnal gemau yn y nos, yn hytrach na gorfod neilltuo amser ar benwythnosau, ac fe fyddai hyn yn gostwng costau clybiau sy’n gorfod llogi canolfannau dan do.

Pe bai’r cynllun peilot yn llwyddiannus, fe allai gemau rygbi gael eu cynnal rhwng Mawrth 1 a Hydref 31 y flwyddyn nesaf – sy’n dechrau cyn y tymor criced ac yn gorffen ar ôl i’r tymor criced ddod i ben.

Fel rhan o’r cynllun, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cydweithio â chyrff mewn campau eraill er mwyn trefnu digwyddiadau ar y cyd i geisio cynyddu ymrwymiad i chwaraeon yng Nghymru.