Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw un o’r dynion a fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd dros y Sul.

Roedd Robert Bambridge, 24 oed, yn dod o Bont-y-pŵl, ac roedd yn un o’r tri dyn a fu farw ar ôl i Ford Focus daro lori ar yr A4232 yn y brifddinas fore Sul (Awst 5).

Roedd y tri yn teithio yn yr un cerbyd, a dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enwau’r ddau arall.

Fe lwyddodd gyrrwr y lori i oroesi’r digwyddiad heb anafiadau difrifol.

“Trasiedi”

Mewn teyrnged, mae teulu Robert Bambridge yn dweud ei fod yn ddyn “cariadus” a oedd hapusaf pan oedd naill ai’n cerdded mynyddoedd neu’n nofio.

“Mae dweud bod Robert yn cael ei garu’n fawr ddim yn gwneud cyfiawnder â’r cariad rydym ni’n ei deimlo tuag ato,” meddai’r datganiad.

“Roedd yn fab ac yn frawd, ond yn fwy na dim roedd yn dad ac mae’n drasiedi ei fod wedi cael ei gymryd oddi arnom ni yn rhy gynnar.”