Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford wedi dweud y bydd arian Ewropeaidd yn hwb i lansio prosiect gwerth £3.5m sy’n peilota technoleg carbon isel a chynnyrch storfeydd ynni.

Prifysgol De Cymru sy’n arwain prosiect SESS (Systemau Storio Ynni Clyfar), ac fe fyddan nhw’n cydweithio â busnesau i sicrhau arloesiad ac i ddatblygu cynnyrch, technolegau a phrosesau ar gyfer y farchnad fasnachol.

Bydd y cynllun wedi’i leoli yng Nghanolfan Peirianneg Moduron a Systemau Pŵer y brifysgol, ac fe fydd yn derbyn £2.3m o arian Ewropeaidd i gydweithio â busnesau carbon isel, ynni ac amgylchedd, gweithgynhyrchu uwch a thechnoleg gwybodaeth.

Bydd gan fusnesau’r prosiect fynediad i gyfleusterau ymchwil ac arbenigedd academaidd y brifysgol.

‘Sbarduno ymchwil o’r radd flaenaf’

 Dywedodd yr Athro Drakeford y byddai’r prosiect yn “sbarduno ymchwil o’r radd flaenaf ym maes yr economi carbon isel”, ac y bydd “cydweithrediad rhwng busnesau a phrifysgolion yn ein helpu” i gyflawni’r nod.

“Mae lleihau ein hôl troed carbon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, gan helpu Cymru i wireddu ei photensial i arbed ynni ac i fod yn allforiwr pwysig o dechnoleg a gwybodaeth arbed ynni.”

‘Manteisio i’r eithaf’

Ychwanegodd Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon: “Mae gan Brifysgol De Cymru brofiad helaeth o gydweithio gydag amrywiol gyrff allanol ym mhob sector o’r economi.

“Mae gan CAPSE enw da am ei harbenigedd ym maes ymchwil batris/storio ynni, ac fe fydd yr SESS wedi’i seilio ar hynny.

“Mae’r wybodaeth helaeth sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru yn mynd i helpu busnesau bach a chanolig sy’n cymryd rhan yn y cynllun SESS i fanteisio i’r eithaf ar ein cryfderau ymchwil ac academaidd.

“Bydd yr arloesi o ganlyniad yn helpu busnesau Cymru i gyfrannu cymaint â phosib i dwf economaidd yn y dyfodol.”