Mae Cymru’n aros “yn yr unfan” wrth geisio denu twristiaid i’r wlad, yn ôl arbenigwr – a hynny er gwaethaf ymgyrch gwerth miliynau o bunnoedd.

Yn ôl Simon Calder, mae’n destun pryder fod gwariant gan dwristiaid wedi gostwng 17% pan fo’r bunt yn wan.

Mae ffigurau newydd yn dangos mai i Lundain a’r Alban yr aeth y rhan fwyaf o’r 39.2 miliwn o dwristiaid i wledydd Prydain yn 2017, ac nid i Gymru.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod eu ffigurau’n gadarnhaol ar y cyfan.

Blwyddyn y Chwedlau

Er i 2017 gael ei marchnata fel Blwyddyn y Chwedlau, yn dathlu chwedlau Cymreig, roedd gostyngiad o 17% yng ngwariant twristiaid yng Nghymru. Cafodd £5m ei wario ar yr ymgyrch.

Yn ôl Simon Calder, mae’r methiant yn parhau i ddigwydd yn rhannol am nad yw’r prif feysydd awyr Ewropeaidd yn gwneud digon i hybu teithiau uniongyrchol i Gymru, a bod twristiaid yn glanio yn Lloegr yn gyntaf.

O’u cymharu â ffigurau Cymru, roedd cynnydd o 4% yn nifer y twristiaid aeth i Lundain rhwng 2016 a 2017, a chynnydd o 17% i’r Alban.

Cynnydd o 0.5% yn unig oedd yng Nghymru, ond fe gwympodd y gwariant o 17% i £369m.

Ffigurau

Yn ôl ffigurau swyddogol, fe fu gostyngiad yn nifer y twristiaid dros nos i Gymru o wledydd eraill Prydain yn 2017.

Roedd gostyngiad o 3% i 9 miliwn o bobol, oedd wedi gwario £1.628m (gostyngiad o 3.6%), tra bod yna gynnydd o 1% yng ngweddill gwledydd Prydain.

Yn ôl Simon Calder, mae twristiaid yn ystyried Cymru’n “atodiad i Loegr”.

Ond mae’n dweud y gallai taith newydd o Qatar i Gymru gael effaith bositif ar y ffigurau, er ei bod yn rhy gynnar i ddarogan hynny ar hyn o bryd.

Mae’r daith newydd, meddai, yn golygu bod Cymru un cam i ffwrdd o rai o ddinasoedd mawr y byd fel Shanghai.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 80% o fusnesau Cymru wedi ymateb i holiadur twristiaeth drwy ddweud iddyn nhw brofi’r un lefel o fusnes neu ychydig yn fwy yn 2017 o’i gymharu â 2016.

Dywedodd llefarydd fod Blwyddyn y Chwedlau wedi bod yn llwyddiannus gan gynhyrchu £365m ychwanegol i economi Cymru.

Mae dros 100 o longau wedi ymweld â Chymru hyd yn hyn eleni, gan ddod â 51,000 o dwristiaid i’r wlad – cynnydd o 15% o’i gymharu â’r llynedd. Aeth 54 o’r llongau i Fôn, sy’n cyfateb i gynnydd o 30% o’i gymharu â’r llynedd.