Mae Anweledig, Geraint Jarman a Meic Stevens ymhlith yr artistiaid a bandiau Cymraeg a fydd yn perfformio yng Ngŵyl  Rhif 6 sy’n digwydd ar benwythnos Medi 8 a 9 ym Mhortmeirion eleni.

Dyma fydd seithfed flynedd yr ŵyl, ac unwaith eto eleni mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi lein-yp o fandiau Cymraeg amlycaf y wlad.

Ynghyd â’r enwau amlwg sydd eisoes wedi’u henwi, bydd yr ŵyl yn cynnig llwyfannau i fandiau ifanc a chyffrous y Sîn Roc Gymraeg.

Ymhlith yr artistiaid yma mae Cadno, Pasta Hull, Ffracas, Gwilym, Alffa, Adwaith, Campfire Social, Campfire Social, CHROMA a Eädyth.

Ac i’r unigolion sydd yn ffafrio cerddoriaeth lai bywiog, bydd Côr Meibion y Brythoniaid yn dychwelyd i swyno ymwelwyr.

Dau artist sydd yn ddigon cyfarwydd â pherfformio yn yr ŵyl, a fydd yn dychwelyd yno eleni, fydd Gwenno a’r band Yucatan.

Gŵyl Rhif 6

Mae Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal ym mhentref Portmeirion, ger Penrhyndeudraeth.

Er i’r ŵyl ddenu sylw yn y gorffennol am eu hymateb i dywydd garw, mae wedi ennill sawl gwobr Brydeinig.

Ym mis Gorffennaf mi wnaethon nhw gyhoeddi na fyddan nhw yn cynnal yr ŵyl y flwyddyn nesaf.