Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi dau a gafodd eu harestio yn dilyn achos o aflonyddwch yng Nghaerfyrddin nos Fercher (Awst 1).
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Dŵr am bump y prynhawn yn dilyn adroddiad am ddyn gyda dryll, a chafodd dau eu harestio.
Bellach mae Hafod Jones, 24, o Gaerfyrddin, yn y ddalfa ac wedi ei gyhuddo o feddu ar arf gyda’r bwriad o achosi ofn. Mae hefyd wedi’i gyhuddo o achosi ffrwgwd.
Mae Bernadette Thomas, 35, o Gaerfyrddin, hefyd yn y ddalfa, ac wedi’i chyhuddo o ddychryn tyst, ac o achosi ffrwgwd.
Bydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli yn ddiweddarach heddiw (Awst 3).
Y digwyddiad
Bu’n rhaid cau’r stryd yng Nghaerfyrddin yn ystod yr aflonyddwch a chafodd 30 o dai eu gwagio – bu’n rhaid trosglwyddo eu preswylwyr i ganolfan hamdden.
Cafodd neb eu hanafu yn ystod y digwyddiad, a bellach mae’r dryll ym meddiant Heddlu Dyfed-Powys.