Mae ffigyrau diweddara’r diwydiant radio, yn dangos fod nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru i lawr yn ystod y chwarter diwethaf.
Yn ôl RAJAR, 112,000 o bobol oedd yn gwrando ar yr orsaf yn ystod y tri mis rhwng Ebrill, Mai a Mehefin eleni, o gymharu â’r 121,000 oedd yn gwrando yn y chwarter cyn hynny.
Mae’r ystadegau yn cynnwys nifer gwrandawyr Radio Cymru 2, yr ail donfedd sydd ar gael ar radio DAB, ar Facebook ac ar y we.
Fe ddaw wedi i BBC Cymru yn gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf mai Rhuanedd Richards sydd wedi’i phenodi yn Olygydd newydd Radio Cymru a gwasanaeth newyddion ar-lein Cymru Fyw, gan ddechrau ar ei gwaith yn yr hydref.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.