Peter Hain
Fe fydd apêl yn cael ei sefydlu i helpu teuluoedd y glowyr a fu farw yn nhrychineb pwll Tarenni Gleision.

Yn ôl cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, Aelod Seneddol yr ardal, fe fydd yn cael ei lansio ar-lein yn ystod y dydd, ddydd Sadwrn.

Fe ddywedodd y byddai angen cymorth ar y teuluoedd ar ôl y profiad ofnadwy yr oedden nhw wedi’i gael.

Ac mae wedi rhoi manylion am yr ymchwiliad sydd bellach wedi dechrau i’r hyn a ddigwyddodd pan gafodd llifogydd eu hachosi gan gwymp yn y pwll ger Cilybebyll yng Nghwm Tawe.

Fe fyddai’r gwaith yn cynnwys tynnu lluniau o’r amodau gwaith o dan ddaear, meddai wrth Radio Wales – y nod oedd ceisio gwneud hynny cyn i ddŵr lenwi’r pwll.

Fe fydd Arolygaeth y Pyllau Glo a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cydweithio ar un ymchwiliad a’r heddlu’n cynnal un arall.