Y chwilio ddoe
Mae’r ymchwiliad wedi dechrau i’r trychineb a laddodd bedwar o lowyr yng Nghilybebyll yng Nghwm Tawe.

Am chwech o’r gloch nos Wener y daeth y cadarnhad fod pob un o’r pedwar wedi marw ar ôl i gwymp achosi llifogydd yng Nglofa’r Tarenni Gleision.

Fesul un, trwy’r dydd, roedd y newyddion wedi dod bod corff arall wedi ei dynnu o shafft y pwll drifft sy’n torri i mewn i lethr y bryn uwchben afon Tawe.

Roed y cynta’ wedi’i gael ar ochr agored y cwymp; roedd y tri arall yn agos at ei gilydd lle’r oedden nhw’n gweithio. Yr awgrym yw eu bod wedi marw bron ar unwaith.

Amodau anodd

Roedd amodau’r chwilio’n anodd i’r gwasanaethau brys, gan gynnwys achubwyr arbenigol, gyda’r rwbel o’r cwymp yn cymylu’r dŵr.

Am ddeuddydd bron, roedd teuluoedd y pedwar wedi bod yn aros am newyddion mewn canolfan gymdeithasol yn Rhos gerllaw ond mae honno bellach yn wag.

Yn ôl Prif Gwnstabl De Cymru, Peter Vaughan, dyma’r canlyniad nad oedd neb eisiau ac yn ôl pennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd a Gorllewin Cymru, Richard Smith, dyma’r amodau gwaetha’ yr oedd y timau achub wedi’u hwynebu mewn 30 mlynedd.

Teyrngedau

Mae teyrngedau hefyd wedi’u talu i’r pedwar – Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Philip Hill, 45 a Garry Jenkins, 39 – a hefyd i’r gweithwyr brys.

Mae’r rheiny wedi dod gan wleidyddion ac arweinwyr crefyddol a’r disgwyl yw y bydd gwasanaethau crefyddol yn yr ardal fory yn eu cofio.

Mae un glöwr arall yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe – roedd yn un o dri a lwyddodd i ddianc. Un o’r rheiny yw Daniel Powell, mab un o’r pedwar.

Yr ymchwiliad yn dechrau

Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried sut y daeth y dŵr i mewn i’r pwll, un o nifer o rai bychain yn ardal Cwm Tawe a Chwm Nedd.

Mae’n debyg hefyd o arwain at ystyried yr amodau mewn pyllau o’r fath, er bod swyddogion Undeb y Glowyr yn mynnu fod amodau wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Roedd y saith glöwr oedd yn gweithio yno’n gorfod defnyddio dulliau hen ffasiwn i gloddio’r glo mewn gwythïen hynod o gul.

Cwmni o’r enw MNS Mining yw perchnogion y pwll – yn Nharenni Gleision yr oedd eu pencadlys nhw.

Negeseuon cydymdeimlad

“Mae’n nhw wedi bod drwy brofiad hynod o anodd: disgwyl am newyddion; gobeithio y byddai eu annwyliaid yn cael eu darganfod yn fyw. Rwy’n gyfarwydd iawn â’r ardal ac rwy’n siwr y byddant yn derbyn y cariad a’r gefnogaeth a fydd angen arnynt i ddod i delerau â’r drasiedi bersonol hyn yn y cyfnod anodd sydd i ddod.” – Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

“Mae hyn wedi bod yn bicell trwy galon y cymunedau lleol yma. Mae yna draddodiad hir o gloddio yma ond doedd neb yn disgwyl i drychinebau cenedlaethau’r gorffennol ddigwydd heddiw.” Peter Hain, Aelod Seneddol yr ardal.

“Mae cymunedau glowyr wedi gweld trychinebau yn y gorffennol, ond dydyn nhw ddim yn gallu lleihau’r boen a’r gwewyr y mae’r teuluoedd yn ei ddioddef dros golled eu teuluoedd, perthnasau a ffrindiau.” Ieuan Wyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru .

“Mae’r holl gymuned yn galaru trostyn nhw.” Archesgob Cymru, Barry Morgan.