Mae pedwerydd person wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 20 oed yn Grangetown.

Fe fydd Saif Shahzad, 19, o Lanisien, Caerdydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore Llun (30 Gorffennaf) ar gyhuddiad o lofruddio Malaciah Joseph Thomas, 20, o Drebiwt.

Cafodd Malaciah Thomas, ei ddarganfod wedi ei drywanu mewn tŷ yn Grangetown yng Nghaerdydd ddydd Llun, 23 Gorffennaf.

Mae tri dyn arall hefyd wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Malaciah Thomas.

Cafodd Awez Jamshaid, 19 oed, o Drelai, ei gyhuddo o lofruddiaeth ddydd Iau diwethaf.

Fe fu Christopher Griffiths, 29, o ardal y Rhath a Daniel Roberts, 20, o Drelai, ger bron Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn.

Mae disgwyl i’r tri dyn fynd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun).

Mae teulu Malaciah Thomas wedi cael gwybod am y cyhuddiad diweddaraf ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.