Does dim sôn am un person yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r prom am 2.21yb, ac fe gafodd naw o oedolion a thri o blant eu hachub. Fe gafodd pump arall eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, rhag ofn.
Mae’r tân wedi lledu i nifer o adeiladau cyfagos, a nifer o bobol wedi’u symud i lety arall am y tro.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân ond mae amheuon y gallai fod wedi cael ei gynnau’n fwriadol.
Mae rhybudd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i bobol gau eu drysau a’u ffenestri ac i ddiffodd systemau cyflyru awyr.
Mae nifer o ffyrdd y dref ynghau am y tro.