Mae pianydd ac arweinydd proffesiynol o Landudoch ger Aberteifi yn dweud nad yw e “erioed wedi teimlo’n anniogel” yn Llundain.

Yn ôl Iwan Teifion Davies, sy’n byw yng nghanol y ddinas, dyw e erioed wedi cael profiad gyda lladron ar y stryd, a dyw e ddim yn adnabod unrhyw un sydd wedi cael profiad tebyg, chwaith.

“Os wyt ti’n darllen y papur, bydden i’n dweud, ‘ddim yn ddiogel iawn’, ond dw i erioed wedi teimlo’n anniogel yn Llundain,” meddai wrth golwg360.

“Ond wrth gwrs eleni, mae yna gynnydd mowr wedi bod, yn enwedig yn faint o bobol ifanc sydd wedi’u lladd.”

“Pobol yn dechre ofni”

Er bod Iwan Teifion Davies yn dweud ei fod yn byw mewn ardal “ddiogel” o’r ddinas, mae’n ychwanegu bod yr adroddiadau diweddar yn y wasg am gynnydd mewn troseddau yn gwneud iddo “ddachre meddwl” ynglŷn â beth a all ddigwydd.

“Y peth yw, pan ydych chi’n darllen straeon am bobol yn cael eu trywanu neu beth bynnag, wedyn rydych chi’n dechre poeni amdano fe pan mae rhywbeth yn digwydd,” meddai.

“Fe wnaeth rhywun – a oedd siŵr a fod yn feddw ar y tube y diwrnod o’r blaen – fod bach yn amhleserus ato fi ac, wrth gwrs, yn arferol bydden i ddim yn ofan na dim byd.

“Ond rwyt ti’n dachre meddwl falle wrth ddarllen am y probleme sydd, beth galle’r person yna ei wneud.

“Dyna’r broblem, mae pobol yn dechre ofni.”