Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw unwaith eto am ddatganoli pwerau tros ddarlledu i Gymru, yn dilyn diffyg ymrwymiad Radio Ceredigion i ddarlledu yn Gymraeg.

Mae Nation Radio, sy’n berchen yr orsaf, wedi gwneud cais am drwydded i ddarlledu yn Saesneg yn unig.

Yn 2012, gwrthododd Nation Radio – oedd yn arfer cael ei adnabod fel Town and Country – adnewyddiad awtomatig o’u trwydded. Ond fe lwyddon nhw i adennill y drwydded gan Ofcom gyda llai o oriau o raglenni Cymraeg.

Daeth trwydded y cwmni i ben unwaith eto ym mis Ebrill, gan gyflwyno cais newydd yr wythnos hon heb unrhyw ymrwymiad i’r Gymraeg.

Eisoes eleni, mae un ymgais i gynnal ymchwiliad i ddatganoli pwerau tros ddarlledu wedi cael ei drechu yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

‘Datganoli darlledu yw’r unig ateb’

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf mai datganoli pwerau tros ddarlledu i Gymru yw’r “unig ateb” bellach.

Ofcom sydd yn rheoleiddio radio lleol drwy wledydd ynysoedd Prydain ond mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld datganoli rheoleiddwyr radio lleol fel un o’r camau cyntaf tuag at ddatganoli darlledu i Gymru.

“Mae’n gwbwl amlwg nad yw’r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Ceredigion na Chymru. Datganoli darlledu yw’r unig ateb.

“Dw i ddim yn ystyried Radio Ceredigion fel gorsaf Gymraeg fel y mae, heb sôn am y posibiliad o beidio cynnwys Cymraeg drwy’r newid i’r drwydded.

“Mae Llywodraeth Prydain wrthi’n ceisio llacio rheoleiddio ymhellach – gyda dim gofyniad i radio masnachol gynnwys newyddion cenedlaethol am Gymru na darlledu yn Gymraeg.

“Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i ni fel cenedl allu gosod rheolau ein hunain, wedi’i seilio ar beth sy’n bwysig i ni. Pa synnwyr mai’r wlad drws nesaf i ni sy’n gyfrifol am ddarlledu yn y wlad?”