Mae’r Ceidwadwr, Tomos Dafydd, o Aberystwyth yn wreiddiol ond wedi byw yn Llundain ers pedair blynedd, yn dweud bod hi’n annheg beio Llywodraeth Prydain am y cynnydd yn nifer y troseddau difrifol yn y ddinas.

Mae rhoi’r bai ar doriadau i’r heddlu am gynnydd yn nifer yr achosion o drywanu ac achosion o droseddu ar gefn moped yn “naïf” ac yn “gyfleus”, meddai wrth golwg360.

“Dw i ddim yn gweld gormod o dystiolaeth o hynny, lle dw i’n byw yng ngorllewin Llundain, mae yna bresenoldeb gweledol iawn gan yr heddlu,” meddai’r dyn 32 oed, sy’n byw yn ardal Wimbledon.

“Yn naturiol, mae yna doriadau wedi bod i’r gyllideb ac rydyn ni’n byw mewn cyfnod o gynni ariannol ond dw i’n credu yr her i’r heddlu yn yr un modd ag unrhyw adran yw i wneud mwy gyda llai a sicrhau gwerth am arian.

“Yma yn Llundain dw i ddim yn gweld unrhyw dystiolaeth fod unrhyw doriadau wedi cynyddu yr hyn rydyn ni’n gweld ynghylch y gangiau yma a’r troseddau â chyllell.

“Dw i’n credu taw dadl wleidyddol reit naïf yw hynny ac mae’n ddadl wleidyddol gyfleus iawn i wrthwynebwyr y Llywodraeth.”

“Heb deimlo dan fygythiad”

Er ei fod “weithiau” yn ofni dros ei ddiogelwch, dydy Tomos Dafydd erioed wedi teimlo “dan fygythiad” yn y ddinas.

“Wrth gwrs mae yna brydiau pryd dw i’n digalonni ar ba mor prysur yw’r ddinas ac yn ofni am fy niogelwch personol,” meddai.

“Ond ar y cyfan, dw i’n credu bod Llundain yn ddinas braf i fyw ac i weithio. Mae’r bobol yn glên ac yn oddefgar a dw i yn bersonol erioed wedi teimlo dan fygythiad.

“Mae yna benawdau yn ddiweddar ynghylch twf trywanu, troseddau gyda chyllell a’r gangiau moped yma yn terfysgu yng nghanol Llundain ond dydw i na fy nghyfoedion wedi profi hynny’n uniongyrchol.

“Yn naturiol mae yna gonsyrn o ddarllen y penawdau yma a dw i’n mawr gobeithio y bydd Maer Llundain, Sadiq Khan, yn dangos arweiniad ac yn mynd i’r afael â’r bygythiadau yma.

“Yn sicr, mae yna fwy o ymwybyddiaeth o’r risgiau i ddiogelwch personol. Dw i’n credu bod pobol yn sicr yn fwy ymwybodol o’r heriau a’r bygythiadau ac yn fwy alert o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch nhw.

“Ond dw i’n credu bod pobol yn aml yn cam-ddehongli Llundain fel y soniais i, dyw’r ddinas ddim yn apelio at ddant pawb, mae’n ddinas mor rhyngwladol, mor cosmopolitan, mor brysur a mor fywiog ond os ydych chi’n barod i dderbyn hynny, mae Llundain yn le andros o ddiddorol i fyw ac i weithio.”