Dywed Aelod Seneddol Llafur bod y Llywodraeth wedi colli’r cyfle i achub S4C ar ôl colli’r bleidlais i hepgor y sianel o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus o un bleidlais yn unig.
Dywedodd Susan Elan Jones AS: “Yr wyf yn siomedig iawn gyda’r bleidlais. Mae’r llywodraeth wedi colli’r cyfle hon i achub S4C.”

Roedd Susan Elan Jones ynghyd â Hywel Williams o Blaid Cymru  a Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud cais i gyfyngu ar bwerau gweinidogion i newid strwythr S4C. Ond methiant fu’r cais yn Nhy’r Cyffredin gyda’r bleidlais 10-9 yn erbyn y gwelliant.

Serch hynny, mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg.

‘Democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu’

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Er gwaethaf y consensws eang yng Nghymru sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau hyn, mae pleidleisiau ASau o Loegr wedi llwyddo i wthio’r cynlluniau trwyddo. Mae democratiaeth Brydeinig wedi ein bradychu.”

“Er hynny rhaid i ni ddal ati gyda’r frwydr i sicrhau dyfodol ein sianel deledu Cymraeg er gwaethaf cynlluniau a frysiwyd gan y llywodraeth fydd yn golygu eu bod yn arbed 94% o’r arian yr oeddynt yn ei wario ar S4C a rhoi’r sianel dan y BBC.”

“Rydym wedi ymgyrchu dros S4C newydd o’r dechrau felly yr her i’r sianel nawr a’r sawl sy’n gweithio iddi yw i sefyll i fyny ac ymladd dros ei dyfodol.”

Roedd Bethan Williams wedi torri ar draws y gweithgareddau wedi’r bleidlais gan weiddi: “Mae hyn yn sarhad ar bobl Cymru” cyn cael ei hebrwng o’r ystafell. Mae hi nawr yn cael ei holi gan yr heddlu.