Peter Hain
Mae’r gwasnaethau brys yn ceisio achub pedwar glowr sy’n gaeth mewn pwll glo sydd wedi llenwi â dŵr.

Llwyddodd tri o lowyr eraill i ddianc o bwll glo Gleision yng Nghilybebyll ym Mhontardawe, ger Abertawe. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.20am bore ma ac mae nhw’n  dal i fod ar y safle. Mae teuluoedd y glowyr yn aros am wybodaeth mewn canolfan gymunedol gerllaw.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Phil Davies bod y sefyllfa’n “anodd”. Mae un o’r glowyr a lwyddodd i ddianc yn cael triniaeth yn yr ysbyty ac mae’r ddau arall wedi bod rhoi gwybodaeth am yr hyn ddigwyddodd i’r timau achub.

Ychwanegodd eu bod nhw’n trio gwagio’r dwr o’r pwll a’u bod nhw’n gwneud popeth yn eu gallu i achub y glowyr.

Dywedodd Mr Davies y byddai ymchwiliad llawn i’r hyn ddigwyddodd ar y cyd â’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Mae’r pwll bach preifat wedi bod ar agor ers 1993.

Dywedodd y Cynghorydd Arthur Threlfall o Gyngor Cymuned Cilybebyll, bod y sefyllfa yn achos pryder.

Dywedodd: “Rydw i wedi cael arddeall bod y dyn gafodd ei anafu wedi ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd. Mae’r pwll mewn man eitha anghysbell. Mae Gleision yn un o’r pyllau hynny sydd wedi agor a chau sawl gwaith ac mae nhw’n tueddu i weithio pan mae nhw’n dod o hyd i lo. Ond yn ddiweddar mae’r pwll wedi cael ei ymestyn.

“Mae’r sefyllfa yn achos pryder ac mae llawer o bobl wedi bod yn bryderus iawn.”

Mae Aelod Seneddol Castell-nedd Peter Hain hefyd wedi ymateb i’r digwyddiad. Dywedodd ei fod yn ceisio cael gwybodaeth am sefyllfa’r glowyr a sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sichrau eu diogelwch.

Dywedodd Gwenda Thomas, AC Castell-nedd, bod nifer o deuluoedd a ffrindiau’r glowyr yn aros  i gael gwybodaeth  yn y ganolfan gymunedol yn y pentref cyfagos, Rhos.

“Rydw i wedi teithio nol o Gaerdydd i Rhos i weld a alla’i fod o unrhyw gymorth. Rydw i’n meddwl am y teuluoedd a’u ffrindiau a’r rhai sy’n gaeth yn y pwll.”