Mae capeli Cymreig yr Andes ym Mhatagonia wedi cyhoeddi na fydd gwasanaethau yno weddill y mis, oherwydd yr eira trwm sydd wedi taro’r ardal.

Fydd yna ddim oedfa Gymraeg tan Awst 5, meddai cyhoeddiad ar y gwefannau cymdeithasol, oherwydd bod y gaeaf mor galed eleni.

Hyn tra bod yr ‘hen wlad’ yn berwi yng ngwres y mis Gorffennaf poethaf ers 1976.

“Anodd credu bo chi yng nghanol yr eira a ni yng Nghymru yn toddi yn yr haul!” meddai un ymateb i’r cyhoeddiad, gyda chyfranwyr eraill yn adleisio’r gwrthgyferbyniad.

Heat wave yma yng Nghymru!” meddai ffrind arall ar wefan Facebook, ac un arall yn cadarnhau, “Mae yn 30au yma!”

Quedan suspendidos los cultos en Bethel Trevelin y Seion Esquel durante el mes de julio por las bajas temperaturas,…

Posted by Capeli Cymreig Yr Andes on Thursday, 5 July 2018