Mae yna “frwdfrydedd” dros yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal, meddai dirprwy faer Llanbedr Pont Steffan, Ann Bowen Morgan, wrth golwg360.

A’r brifwyl wedi ymweld â’r dref ddim ond unwaith ers 1861 – a hynny yn 1984 – efallai ei bod hi’n bryd iddi ddychwelyd i Ddyffryn Teifi yn 2020.

Yn 1984, Aled Rhys Wiliam oedd enillydd y Gadair, gyda’r bardd o Benuwch, John Roderick Rees yn mynd â’r Goron. John Idris Owen oedd yn gwisgo’r Fedal Ryddiaith am ei gyfrol Y Ty Haearn.

Mae Llanbedr Pont Steffan yn gartref hefyd i un o’r eisteddfodau taleithiol – y semi-nationals – mwyaf yng Nghymru, sef Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, sy’n cael ei chynnal dros bedwar diwrnod ar wyl banc diwedd mis Awst bob blwyddyn.