Bydd Aelodau Cynulliad yn holi’r Prif Weinidog am effeithiau Brexit ar dwristiaeth wrth graffu ar ei waith yn ddiweddarach.

Yn ogystal byddan nhw’n holi Carwyn Jones am lwyddiant ‘blynyddoedd thematig’ Llywodraeth Cymru – Blwyddyn y Chwedlau, ac ati – ac am y cymorth sydd ar gael i fusnesau twristiaeth.

Twristiaeth, wrth gwrs, fydd ar agenda’r sesiwn yma gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, ond mae disgwyl iddyn nhw ei holi am faterion cyfoes eraill hefyd.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn yr Hen Goleg, Aberystwyth; ac mi fydd modd ei wylio’n fyw drwy Senedd.TV.

“Hanfodol”

“Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac mae ein gallu i farchnata’r wlad i ymwelwyr y tu hwnt i’n ffiniau ni yn rhan hollbwysig yng ngoroesiad a datblygiad y sector,” meddai Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor.

“I lawer o fusnesau a phobl yn Aberystwyth, Ceredigion ac ar draws Cymru, mae’r cyfarfod hwn yn rhoi cyfle inni ofyn i’r Prif Weinidog am ei strategaeth dwristiaeth, y data perfformiad twristiaeth ddiweddaraf ac effaith bosibl Brexit ar y sector.”