Harry Patterson (trwy law'r heddlu)
Mae’r AA wedi rhybuddio rhieni am beryglon parcio ceir tu allan i’w cartrefi yn dilyn y ddamwain pan gafodd bachgen pump oed ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar y teulu tu allan i’w gartref.

Credir bod Harry Patterson o Alltwen, ger Pontardawe wedi dringo i mewn i’r car ac wedi rhyddhau’r brec llaw. Mae’n debyg ei fod wedi neidio allan o’r car ar ôl sylweddoli bod y Seat yn rholio lawr yr allt serth, gan daro ei ben.

Dywedodd llefarydd ar ran yr AA bod damweiniau fel hyn yn hynod o anghyffredin ond bod yn rhaid bod yn wyliadwrus.

“Mae digwyddiad fel hwn yn atgoffa rhieni o’r peryglon sydd na o amgylch cerbydau,” meddai.

“Mae ceir sy wedi eu parcio y tu allan i dai yn gallu bod yr un mor beryglus â rhai sydd wedi eu parcio ar y ffordd.  Mae pobl weithiau’n anghofio rhoi eu brec llaw ymlaen neu’n rhoi eu troed ar y pedal anghywir ac yn anghofio bod rhywun yn sefyll o’u blaenau neu tu ôl iddyn nhw.

“Mae’n drasiedi pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd i blentyn ifanc.”

Teyrnged

Mae tad Harry Patterson wedi bod yn talu teyrnged i’w fab.  Dywedodd Mr Patterson fod ei fab yn “wych” ac roedd ei fryd ar fod yn gogydd pan oedd yn hŷn. Ychwanegodd bod Harry yn blentyn bach hapus ac mae cymdogion wed ei ddisgrifio fel bachgen bach “direidus”.

Cafodd Harry ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn y ddamwain am 5.45pm nos Fawrth ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei rieni, Michelle a Christina Patterson, y ddau yn actorion, yn cael cymorth gan eu cymdogion yn dilyn y drasiedi.

Mae’r heddlu yn dal i archwilio’r car er mwyn ceisio dargan fod beth aeth o’i le.

Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r ddamwain i gysylltu â nhw ar 01656 655555 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.