Mae’r Heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ffordd angheuol yn Y Waun.

Fe gafodd yr Heddlu eu galw i’r digwyddiad am tua phedwar o’r gloch brynhawn dydd Mawrth yn dilyn adroddiad am ddamwain rhwng  seiclwr a lori fechan ar y ffordd rhwng Chirk Bank a phentref Y Waun.

Fe gafodd dyn 71 mlwydd oed ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam  lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae gyrrwr y lori  wedi’i arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn ymchwiliadau pellach.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth am y ddamwain neu a welodd seiclwr neu lori fechan Mazda gwyn yn gyrru ar y ffordd cyn y ddamwain gysylltu â Mark Lightfoot ar 101, ar 0845 6071001 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.