Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn talu am wersi Pwyleg i fachgen o Wlad Pwyl sy’n byw gyda rhieni maeth ym mhrifddinas Cymru.
Daeth y bachgen naw oed i Gymru gyda’i fam ar ôl treulio chwe blynedd cynta’i fywyd yng Ngwlad Pwyl.
Cyngor Dinas Caerdydd sy’n gyfrifol am les y bachgen, ac mae Barnwr Llys Teulu wedi cytuno gyda’r penderfyniad i dalu am wersi Pwyleg iddo.
Yn ôl y Barnwr Justice Francis, mae yn hanfodol bod y bachgen yn cadw cysylltiad gyda’i etifeddiaeth Bwyleg.
“Mae yn fachgen o Wlad Pwyl ac mae hi yn bwysig ystyried ei dreftadaeth,” meddai’r Barnwr Francis.
“Rydw i ar ddeall bod ganddo gymdogion o Wlad Pwyl ag y gall o sgwrsio gyda nhw ac y bydd nawdd ar gael gan yr awdurdod lleol iddo gael gwersi Pwyleg.”
Cefndir
Daeth y bachgen i sylw’r awdurdodau wedi i’r fam ddychwelyd i Wlad Pwyl, a’i adael yng ngofal dyn oedd â record o gam-drin plant yn rhywiol.
Fe gafodd y bachgen ei roi dros dro yng ngofal rhieni maeth, a bellach mae’r Barnwr yn dweud y dylai aros yn eu gofal nhw.