Gyda 240,000 yn heidio i Gaerdydd dros y penwythnos i wylio’r cerddor, Ed Sheeran, mae pryderon wedi codi am allu’r brifddinas i ddelio â digwyddiadau mawr.

Bydd y cantor cochwallt yn cynnal pedair noson o berfformiadau yn Stadiwm y Principality, ac mae disgwyl y bydd yn denu tua 60,000 o ffans bob nos.

Cafodd y perfformiad cyntaf ei gynnal neithiwr (Mehefin 21), ac un o’r rai a oedd yno oedd y sylwebydd cerddorol a threfnydd digwyddiadau yng Nghlwb Ifor Bach, Elan Evans.

Mae’n nodi ei fod yn “beth anhygoel bod Caerdydd yn awr yn gallu cynnig y platfform yna i sêr byd enwog” a’n ategu ei fod yn “amazing bod gymaint o bobol yn dod i’n dinas fach ni!”

Ond, o ystyried bod gan Gaerdydd boblogaeth o 335,000, a bod disgwyl bron i chwarter miliwn heidio i’r ddinas, mae Elan Evans yn pryderu rhywfaint.

Dinas fach

“Mae’n beth really cool, ond hefyd yn amlwg, mae Caerdydd yn ddinas eitha’ bach,” meddai wrth golwg360. “A ti yn gofyn y cwestiwn: ‘Ydyn ni’n gallu delio gyda chymaint â hyn o bobol yn y ddinas?’

“Sa i’n credu bod [y cyngerdd] yn rhy fawr i Gaerdydd. Fi’n credu bod e’n hen bryd i Gaerdydd fedru cynnig y llwyfannau yma.

“Ond, fi’n credu bod e’n hen bryd bod Cyngor Caerdydd a’r Llywodraeth yn gwneud rhywbeth i wella’r sefyllfa yng Nghaerdydd. I wneud Caerdydd yn lle sy’n barod i dderbyn gymaint â hyn o bobol.”

Trafnidiaeth

Mae Elan Evans yn ategu bod angen “gwneud mwy” i ddelio â’r cynnydd mewn “traffig dynol”.

Yn ogystal mae’n nodi bod y penderfyniad i gau ffyrdd yng nghanol y ddinas yn ystod digwyddiadau mawr, yn golygu nad oes modd iddi drefnu gigiau yng Nghlwb Ifor Bach ar y dyddiadau hynny.

A hynny, gan fod bandiau angen ceir i gludo’u hoffer i’r clwb.

“Budd economaidd mawr i Gaerdydd”

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

“Mae Stadiwm Principality yn fusnes preifat heb fod angen arno ganiatâd gan y Cyngor nac unrhyw un o’r awdurdodau eraill i gynnal digwyddiadau yno.

“Mae Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân yn gweithio’n agos gyda rheolwyr y stadiwm fel y gall yr holl bartneriaid gael pobl i mewn ac allan o’r ddinas yn ddiogel.

“Mae’r partneriaid yn cydweithio ac mae darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn hysbysebu cyngor ar drafnidiaeth a theithio cyn pob digwyddiad.

“Mae rhai o berfformwyr gorau’r byd yn dod i Gaerdydd, ac fel y dywedodd Ed Sheeran ddoe, Stadiwm Principality yw’r stadiwm gorau y mae erioed wedi chwarae ynddo.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn dod â budd economaidd mawr i Gaerdydd ac rydym yn falch o’r digwyddiadau a gynhaliwn.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ddiweddar wedi cyhoeddi manylion y METRO fydd yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd o’r ardaloedd cyfagos. I’r rhai sy’n dod i Gaerdydd i wylio digwyddiadau mawr o’r trefi cyfagos neu’r maestrefi, bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella’n sylweddol, gan alluogi’r awdurdodau i gael nifer fawr o bobl i mewn ac allan o’r ddinas yn ddiffwdan.”

 

“Pan fod bron 72,000 o bobl yn dod i’r stadiwm i wylio gêm neu gyngerdd, rhaid cau ffyrdd i sicrhau diogelwch cyhoeddus. Gweithiwn gyda busnesau yng nghanol y ddinas i liniaru’r effaith gymaint â phosibl.”