Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn credu mai “tynnu pwyslais” oddi ar bleidlais bwysig “allai achub S4C” mae Guto Bebb drwy ei sylwadau ynghylch panel penodi’r Prif Weithredwr ddydd Gwener.

Eisoes, mae Guto Bebb, AS Aberconwy wedi dweud ei fod wedi ysgrifennu at Huw Jones, Cadeirydd yr Awdurdod, gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr Winston Roddick QC fod ar y panel am ei fod wedi datgan diddordeb oherwydd ei gyfeillgarwch gydag un o’r ymgeiswyr.

Ond, fe ddylai’r pwyslais ar hyn o bryd fod ar S4C a’r bleidlais sy’n digwydd yfory “ble mae cyfle i achub S4C,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.

Mae Aelodau Seneddol yn craffu ar fanylion y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Yfory byddant yn pleidleisio ar y mater.

“Pobl fel Guto Bebb sy’n codi’r peth (proses penodi’r Prif Weithredwr). Cynlluniau ei blaid ef yw e. Mae’n edrych yn debyg iawn ei fod o’n codi’r peth er mwyn tynnu sylw oddi ar gynlluniau’r Llywodraeth,” meddai Bethan Williams.

‘Tynnu S4C allan o’r mesur’

“O ran y bleidlais, rydan ni’n annog pob un ar y pwyllgor i bleidleisio dros dynnu S4C mas o’r mesur cyrff cyhoeddus, dyna’r peth pwysicaf all unrhyw un wneud ar hyn o bryd,” meddai Bethan Williams.

“…Mae’r cynllunie ‘ma yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol. Ni gyd yn gwybod hynny. Mae siŵr bod e ei hunan ddim eisiau cydnabod hynny felly, mae e’n codi unrhyw beth jest er mwyn tynnu sylw oddi arno.”

Fe fydd y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn rhoi’r hawl i weinidogion Llywodraeth San Steffan newid neu ddileu S4C heb ymgynghori â’r senedd. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog aelodau a chefnogwyr i gefnogi’r ymdrech trawsbleidiol i hepgor S4C o’r mesur.

Dadl penodi Prif Weithredwr

Eisoes, mae Golwg 360 wedi cael ar ddeall fod Arwel Ellis Owen, y Prif Weithredwr dros-dro, Rhodri Williams, Aled Eurig, a Geraint Rowlands ymysg yr enwau sy’n debygol o gael eu cyfweld am swydd Prif Weithredwr y sianel ddydd Gwener.

Roedd Guto Bebb wedi dweud mai’r “peth ola’ y mae’r sianel eisiau ydi fod cwmwl tros benodiad Prif Weithredwr newydd. Efo’i gefndir cyfreithiol, mi ddylai Winston Roddick fod yn ymwybodol o hyn”.

Daw hyn wedi i Mr Bebb ysgrifennu at S4C gan ddweud na ddylai’r bargyfreithiwr fod ar y panel i benodi’r Prif Weithredwr newydd – oherwydd ei fod yn ffrind agos i un o’r ymgeiswyr.

“Y peth olaf mae penodiadau cyhoeddus eisiau ydi  rhywun yn ymyrryd yn y broses,” meddai Winston Roddick wrth Golwg360 heddiw. “Dw i’n gydwybodol iawn o ‘nyletswyddau cyfreithiol fel cyfreithiwr, fel un sydd wedi dal swydd arwyddocaol yn gyhoeddus.

“Dw i’n gwybod yn union beth yw’r rheolau, dw i’n gwybod sut mae ymddwyn. Fydda i’n ymddwyn ac yn cydymffurfio gyda’r rheolau hyn. Dyna pam ‘dw i wedi gwneud datganiad. Y fi sydd wedi gwneud datganiad – neb arall,” meddai.