Mae’r we wedi cael ei ddefnyddio i dargedu plant mor ifanc â chwe blwydd oed yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddara’r NSPCC.

Yn ystod y flwyddyn ers i’r ddeddf ‘Cyfathrebu’n Rhywiol â Phlentyn’ ddod i rym mae 274 achos o gyfathrebu rhywiol ar-lein wedi’u hadrodd i’r heddlu yng Nghymru.

Roedd dros hanner y rhain yn ardal Heddlu De Cymru (158), gyda 53 yng Ngogledd Cymru a 44 yn ardal Gwent.

Rhwng Hydref 2017 ac Ebrill 2018, roedd yna 19 achos yn ardal Dyfed-Powys.

Roedd Facebook, Instagram a Snapchat ymhlith yr apiau a gwefannau a gafodd eu defnyddio i feithrin plant er dibenion rhyw.

Ac roedd 91% o’r troseddau a gafodd eu hadrodd, wedi’u cyflawni yn erbyn plant rhwng 12 a 15 oed. Er hynny, roedd yna 56 adroddiad o droseddau yn erbyn plant 11 oed neu iau.

Apêl

“Mae’r niferoedd yma yn llawer uwch na’r oeddwn wedi disgwyl,” meddai Prif Weithredwr yr NSPCC, Peter Walness.

“Mae pob neges rywiol gan oedolyn at blentyn yn medru cael effaith.

“Dw i’n erfyn ar yr Ysgrifennydd Digidol, Matt Hancock, i wireddu ei addewid, a chyflwyno rheolau diogelwch sydd wedi’u cefnogi â’r gyfraith, a rheoleiddiwr annibynnol sydd â’r pwerau i ddirwyo.”

Fe ddaeth y Ddeddf Cyfathrebu’n Rhywiol â Phlentyn i rym yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill y llynedd.