Mae’r elusen gwarchod anifeiliaid, RSPCA Cymru, yn apelio am wybodaeth wedi i wylan orfod cael ei difa ym Mhenarth, ar ol iddi gael ei saethu’n fwriadol â reiffl awyr ger Penarth.

Fe blymiodd yr aderyn i lawr i ardd yn Llandochau Fach ddydd Sul diwethaf (Mehefin 10) a phan ddaeth yr elusen o hyd iddi, roedd un o’i hadenydd wedi’i thorri. Roedd ganddi hefyd glwyf ar ei hochr.

Fe ddaeth swyddogion yr RSPCA o hyd i belet o reiffl awyr ym mrest yr aderyn, ac mae perchennog yr ardd yn honni iddi glywed tair ‘bang’ cyn i’r wylan gwympo.

“Yn anffodus, mi dderbyniom 70 galwad yn gysylltiedig â drylliau awyr y llynedd,” meddai Gemma Black, arolygydd â’r RSPCA.

“Roedd hynna yng Nghymru yn unig, ac yn gynnydd o 15% ar y flwyddyn flaenorol. Yn anffodus, yr wylan hon yw’r ddiweddara’ i gael ei thargedu.”