Mae aelodau yr unig eglwys Gymraeg yng Nghanada, yn dal i aros i glywed a fydd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnal yno yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaethau yn cael eu cynnal gan Eglwys Unedig Gymraeg Dewi Sant Toronto ar ddydd Sul cyntaf bob mis.

Ond, gan mai dim ond deg i ddeuddeg o  bobol sy’n troi allan i’r rhain erbyn hyn, mae’r eglwys bellach yn cynnal arolwg ar ddyfodol y gwasanaeth.

Er i’r arolwg hwn gael ei gynnal mewn cyfarfod arbennig ar Fehefin 3, dyw aelodau’r eglwys o hyd ddim callach ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd.

Fe adroddodd y wefan hon am y cyfarfod a oedd i’w gynnal wedi’r oedfa ddydd Sul, Mehefin 3, er mwyn clywed barn yr aelodau.

Mae llefarydd ar ran Eglwys Gymraeg Dewi Sant Toronto heddiw’n dweud nad yw casgliadau’r arolwg ar gael eto, ac nad yw’r aelodau wedi cael gwybod beth fydd yn digwydd nesaf.