Mae Betsan Powys wedi cyhoeddi ei bod am adael ei swydd yn olygydd Radio Cymru.

Wedi pum mlynedd wrth y llyw, mi fydd hi’n gadael yn yr hydref, gan ddweud ei bod am neilltuo mwy o amser i’w theulu.

“Dw i wedi mwynhau bob her, ar ac oddi ar y sgrin, bob trafodaeth greadigol, bob cyfle fel newyddiadurwraig yma’n BBC Cymru ar hyd y blynyddoedd,” meddai.

“[A] bob cyfle i gynnig y rhaglenni a’r lleisiau gorau posib i wrandawyr Radio Cymru – a nawr mae hi’n bryd mwynhau cyfnod yr un mor hapus a gwerthfawr yng nghwmni’r teulu.”

Mae Betsan Powys wedi treulio dros 30 blynedd yn gweithio â’r BBC, ac mae hi’n olygydd ar BBC Cymru Fyw.