Bydd cwmni dŵr yng ngogledd Cymru yn parhau i weithredu o’r un pencadlys yn Wrcesam, yn ôl perchnogion newydd.

Bellach dan berchnogaeth Hafren Trent, bydd cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy yn newid ei enw i Hafren Dyfrdwy ym mis Gorffennaf – enw uniaith Gymraeg.

Roedd yna bryder y gallai’r cwmni fod yn symud swyddfa, yn enwedig gan fod llythyrau at gwsmeriaid yn arddel cyfeiriad yn Darlington, gogledd Lloegr.

Ond mae golwg360 wedi cael cadarnhad gan Hafren Trent mai ar Heol Packsaddle yn Wrecsam y  bydd y pencadlys yn aros.

Beth sydd yn Darlington?

Mae llefarydd ar ran Hafren Trent wedi cadarnhau mai cyfeiriad “canolfan prosesu” sydd yn Darlington – safle sy’n cael ei ddefnyddio i brosesu gohebiaeth a llythyrau.

Mae cwmni hefyd wedi cadarnhau na fydd unrhyw swyddi’n cael eu colli yn dilyn yr ailwampio. Cwmni o Loegr yw Hafren Trent, gyda’i bencadlys yn Coventry.

O Orffennaf 1 ymlaen, bydd 35,100 o gartrefi, a 3,900o fusnesau, ym Mhowys a Sir Fynwy sy’n gwsmeriaid Hafren Trent ar hyn o bryd, yn troi’n gwsmeriaid ‘Hafren Dyfrdwy’.

Bydd y rhain yn ymuno â chwsmeriaid Dŵr Dyffryn Dyfrdwy eraill o Gymru, gyda’r 49,700 cartref yn Lloegr sydd yn gwsmeriaid Dŵr Dyffryn Dyfrdwy, yn troi’n gwsmeriaid Hafren Trent.