Gorsaf yr heddlu yng nghanol Caerdydd
Mae’r heddlu’n dal i geisio deall sut yr oedd plentyn pedair oed wedi cwympo i mewn i ffynnon – neu ffownten – yng nghanol Caerdydd.

Ac mae’r bachgen ei hun yn parhau yn yr uned ofal dwys i blant yn Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas ar ôl i aelodau o’r cyhoedd ei dynnu o’r dŵr.

Roedden nhw’n credu ei fod wedi boddi ond, ar ôl i rai ohonyn nhw geisio’i adfer, fe ddaeth parafeddygon a chadarnhau ei fod yn fyw.

Yn ôl y BBC, roedd rhieni’r bachgen yn swyddfa’r heddlu ar y pryd yn dweud fod eu plentyn ar goll – mae’r swyddfa o fewn ychydig gannoedd o lathenni i’r pwll dŵr sydd ger Neuadd y Ddinas.

Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn holi pobol a oedd yn yr ardal ar y pryd.

Dyw enwau’r teulu ddim wedi eu cyhoeddi