Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £40m ychwanegol y flwyddyn nesa’ i wella gwasanaethau i gwsmeriaid.
Mae’r cwmni nid-er-elw wedi cyhoeddi’r buddsoddiad hwn ar ôl iddyn nhw gofnodi canlyniadau ariannol da yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.
Maen nhw hefyd, medden nhw, wedi llwyddo i gadw biliau cyfartalog cwsmeriaid yn gyson â graddfa chwyddiant – neu’n is – am naw blwyddyn yn olynol.
Bydd y £40m o hwb ariannol yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau er budd cwsmeriaid yng Nghymru, Sir Henffordd a rhannau o lannau Dyfrdwy, sy’n cynnwys:
- Mwy o gefnogaeth i aelwydydd ag incwm isel i dalu biliau;
- Buddsoddi mwy mewn mesurau i atal llifogydd, y rhwydwaith cyflenwi dŵr ac argaeau cronfeydd ddŵr;
- Gwella systemau busnes y cwmni.
“ennill hyder ein cwsmeriaid”
“Mae’r buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei gyhoeddi heddiw, sy’n cwmpasu popeth o gymorth ar gyfer aelwydydd incwm isel i fuddsoddi yng ngwytnwch cyflenwadau dŵr yfed o safon uchel, oll er mwyn ennill hyder ein cwsmeriaid, bob dydd,” meddai Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones.