Digrifwyr ddaeth i’r brig yn rownd derfynol sioe dalent Britain’s Got Talent eleni, gyda chanwr ifanc o Amlwch yn dod yn bedwerydd.

Fe bleidleisiodd y cyhoedd tros ‘Lost Voice Guy’ yn enillydd, ac yntau’n defnyddio cyfrifiadur i siarad ar ei ran.

“Roeddwn i’n anabl cyn fy mod i’n enwog,” meddai’r enillydd yn y slogan ar ei grys-T.

Roedd pobol Porth Amlwch yng ngogledd Môn wedi cynnal ‘Gruffest’ er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r hogyn lleol y maen nhw mor falch ohono.

Mae beirniaid y gystadleuaeth deledu, wedi dweud fod ymddangos yn y ffeinal yn “ddechrau pethau mawr” i Gruffydd Wyn Roberts.