Mae dyn 49 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes yn ardal Beddllwynog, ger Merthyr Tudful.

Fe gafodd corff Denise Rosser, 38 oed, ei ddarganfod gan yr heddlu ar ôl cael eu galw i dŷ yn Stryd Lewis, Beddllwynog – Bedlinog – fore dydd Mawrth.

Erbyn hyn, mae Simon Winstone wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tudful y bore yma.

“Bywyd cythryblus”

 Yn ôl datganiad gan deulu Denise Rosser, maen nhw’n dweud bod y ddynes 38 oed wedi wynebu “nifer o heriau” yn ystod ei bywyd, a’u bod nhw’n gobeithio ei bod hi erbyn hyn yn gallu “gorffwys mewn heddwch”.

Maen nhw hefyd wedi diolch i’r gymuned leol am gefnogi Denise Rosser ar hyd y blynyddoedd.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.