Mae bachgen 11 oed o Geredigion, a fu farw mewn damwain angheuol, wedi ennill un o gystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.

Bu farw Tristan Silver, disgybl yn Ysgol y Dderi, Llangybi, ddechrau’r mis, a hynny ar ôl derbyn anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron.

Cyn ei farwolaeth, roedd wedi cystadlu ar y cyd â chyd-ddisgybl yng nghystadleuaeth ‘Creu Ap Blwyddyn 6 a Iau’ ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni.

Ac mewn seremoni gwobrwyo ar Faes y Sioe heddiw (dydd Mercher, Mai 30), fe gyhoeddwyd mai’r ddau o Ysgol y Dderi oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth.

Fe gafodd y medalau eu casglu yn y seremoni gan chwaer Tristan Silver, a Nile Hyde.